Dyma'r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc - ac i unrhyw un hyn sy'n hoff o antur. Mae bwystfil yn bygwth y wlad - creadur yn syth o ganol hunllef - Yr Horwth.
"Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio."
Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae'r llwybr yn arwain at y Copa Coch - mynydd sy'n taflu cysgod brawychus dros y tir... ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i'r teithwyr eu datgelu.
• Llyfr wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng Elidir Jones a Huw Aaron
• Perffaith i'r rheiny sy'n mwynhau darllen The Edge Chronicles (Paul Stewart / Chris Riddell) neu'r gyfres Redwall (Brian Jacques), neu sy'n hoff o drysor, bwystfilod ac antur.